Sylwadau ar 'Dyfodol Llwyddiannus'Adolygiad Annibynnol  yr Athro Donaldson o 'r Cwricwlwm a Threfniadau Asesu yng Nghymru

Rhagymadrodd

Rwyf wedi cyfyngu fy sylwadau i’r hyn sydd gan yr Adolygiad i’w ddweud am y cwricwlwm yn gyffredinol a hanes.  Rwyf wedi ceisio canfod ôl argymhellion yr Adroddiad ar y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru [1](ACCH), a nodi fy ymateb i’r modd yr ymdrinir â’r rhain, lle mae’n berthnasol. Nid wyf yn trafod materion eraill, megis asesu, strwythuro ac ati, onibai eu bod yn berthnasol i’r Cwricwlwm Cymreig a/neu hanes.

Sylweddolaf mai cynsail yn unig ar gyfer newid yw’r Adolygiad. Mae’n gwneud argymhellion ar gyfer sylfeini’r gyfundrefn addysg yng Nghymru: nid yw’n cyflwyno’r adeilad gorffenedig. Ond y sylfeini sy’n penderfynu natur a diogelwch yr adeilad, a  dyma’r egwyddorion fydd yn feini prawf i lunwyr cwricwlwm nesaf Cymru. Yn fy marn i, nid yw rhai o'r newidiadau a gynigir i’r Cwricwlwm yng Nghymru wedi eu seilio’n gadarn yn nhir a daear Cymru, a phryderaf felly am ansawdd a Chymreictod cwricwlwm newydd i Gymru a seilir ar yr Adolygiad hwn.

Cyffredinol

1.  Mae llawer i’w groesawu yn Adolygiad yr Athro Donaldson, ac ni ellir anghytuno gyda’r egwyddorion sylfaenol a amlinellir ar gyfer y cwricwlwm yn gyffredinol.  Yn eu hanfod, dyma’r math o egwyddorion sy’n ysbrydoli’r Cyfnod Sylfaen presennol,  a nhw, ynghyd â rhai o’r cwricwla cenedlaethol eraill a grybwyllir yn yr Adroddiad, oedd sail Cwricwlwm 2008 hefyd, gyda’i bwyslais ar y dysgwr ac ar ddatblygu sgiliau ar draws y cwricwlwm. O ganlyniad, mae argymhellion yr Athro Donaldson yn hynny o beth yn ddilyniant naturiol o ddatblygiadau blaenorol yn y Cwricwlwm yn Nghymru, yn enwedig y Cyfnod Sylfaen.  Dyma esblygiad felly yn hytrach na chwyldro, ac ni ddylai olygu newid sylfaenol yn egwyddorion cyffredinol y cwricwlwm yng Nghymru.  Mae hyn i gyd yn gwbl gyson ag argymhellion ACCH.

Cwricwlwm Cymreig

2.   Calonogol iawn hefyd oedd gweld bod yr ymateb i‘r ymgynghoriad  a gynhelid fel rhan o’r Adolygiad yn dangos cefnogaeth amlwg i’r Cwricwlwm Cymreig, yr iaith Gymraeg, diwylliant Cymru a’r syniad o Cwricwlwm i Gymru. Dyma sail gadarn i adeiladu ar argymhellion yr ACCH. Braf yw darllen yn yr Adolygiad

·          y dylai’r cwricwlwm fodyn ddilys: wedi’i wreiddio yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru ...’ (t.14);

·          bod tystiolaeth trafodaethau’r Athro Donaldson a’i dîm gyda rhanddeiliaid yn dangos yn glir bod  ‘ymrwymiad cadarn ... i’r Gymraeg a dwyieithrwydd, ac i’r egwyddor o addsyg gynhwysfawr, gynhwysol, a’r nod o gynnwys dimensiwn Cymreig yn addysg yr holl blant a phobl ifanc’ (t.15);

·          a bod ymatebion i’r cais am dystiolaeth yn dangos yn glir y gefnogaeth gyffredinol i’r Cyfnod Sylfaen, y Gymraeg a dwyieithrwydd, a’r ffocws ar hunaniaeth Cymru a’r Cwricwlwm Cymreig’ (ibid.).

 Calonogol  dros ben oedd gweld bod hynny’n amlwg hefyd yn ymatebion yr ifanc i’r ymgynghoriad.

3.   Serch hynny, pryderaf am y modd y mae’r Adolygiad ei hun fel petai’n cyfyngu’r ystyriaeth a roir i’r dimensiwn Cymreig i’r iaith a’r diwylliant yn unig. Digwydd hynny mor gynnar â th.19, lle aralleirir y  gefnogaeth i’r dimensiwn Cymreig ac i'r ffocws ar hunaniaeth Cymru a’r Cwricwlwm Cymreig a fynegwyd yn yr atebion i’r ymgynghoriad, fel cefnogaeth i ‘iaith a diwylliant’ yn unig.  Gwelir yr un dehongliad camarweiniol (neu gamddealltwriaeth) eto ar d. 24, ac yn y Casgliadau ar d.105, lle nodir ‘... y pwys a roddir ar y Gymraeg a diwylliant Cymru...’  heb unrhyw  gyfeiriad at  ddimensiwn Cymreig ehangach.

 

 

4.   Wrth grynhoi ei adroddiad, dywaid  yr Athro Donaldson 'Mae'n bwysig cael diffiniad clir o'r hyn yr ydym yn ei olygu wrth y cwricwlwm' (t. 105). Ni ellir anghytuno â hynny. Ond nid yw Adroddiad yr Athro Donaldson yn ceisio diffinio’r dimensiwn Cymreig na’i grybwyll mewn cyd-destun ehangach na’r diwylliannol, na chyfeirio ato mewn cyswllt traws-gwricwlaidd.  Gwelaf  berygl gwirioneddol yma o gyfnyngu i’r iaith a'r diw ylliant yn unig y ‘dimensiwn Cymreig’ hwnnw a ddylai fod yn sylfaen i Cwricwlwm go iawn i Gymru. Mae llawer mwy i’r Cwricwlwm Cymreig presennol na hynny. Mae diffyg diffiniad o'r dimensiwn Cymreig felly yn groes i un o egwyddorion sylfaenol Adroddiad yr Athro Donaldson a hefyd argymhelliad yr ACCH, sef ‘...dylai’r fersiwn nesaf o’r cwricwlwm cenedlaethol i Gymru gymryd fel man cychwyn syniadau a delfrydau’r Cwricwlwm Cymreig presennol, gan adeiladu arnynt yn hytrach na’u trin fel atodiad. Dylai fod ganddo dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol’(Donaldson, dyf t.26). Ymddengys i’r Athro Donaldson anwybyddu’n gyfangwbl argymhelliad arall yr ACCH, sef y ‘Dylid diffinio’r Cwricwlwm Cymreig yn gliriach, a dylai’r diffiniad newydd hwn fod yn greiddiol i unrhyw gwricwlwm yn y dyfodol’, oni bai iddo ystyried bod cyfeiriadau at ‘iaith a diwylliant’ (gw. y pwynt blaenorol) yn gyfystyr â diffiniad. Byddai hynny gwneud cam mawr â’r cysyniad o Gwricwlwm Cymreig ac arfer da presennol.

 

5.   Ni ellir anghytuno  gyda’r gosodiad ‘nad oes un templed cyffredinol ar gyfer cwricwlwm ‘da’ – mae llawer yn dibynnu ar amodau, gwerthoedd a diwylliant lleol a chenedlaethol’ (t.17) na’r egwyddor sylfaenol o sybsidiaredd a nodir ar d.18 ac a drafodir yn fanylach ar dd. 98-99. Mae’n hanfodol bwysig  bod yr hyn sydd yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion yn adlewyrchu gwerthoedd, diwylliant a safbwyntiau cymdeithas, ac y mae’r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond pwy sydd i benderfynu gwerthoedd a diwylliant cenedlaethol? Pwy nawr fydd yn diffinio’r dimensiwn Cymreig ehangach? Anodd fyddai diffinio’r rhain mewn ffordd fyddai’n plesio pawb, ond heb ddiffiniad erys problem sylfaenol. Er enghraifft, cyfeirir at yr angen am gwricwlwm sy’n cynnwys ‘yr holl brofiadau dysgu a gweithgareddau asesu y mae’r ysgol yn eu cynllunio wrth geisio cyflawni dibenion addysg y cytunwyd arnynt’ (t. 6.) ac yn gyson â ‘set o ddibenion cytûn a datganedig’ (t.14), a nodir beirniadaeth yr OECD o ddiffyg ‘nodau a dibenion cyffredinol pendant’ yng Nghymru (t.21). Nodwyd uchod bod Adroddiad yr Athro Donaldson yn rhoi amlinelliad clir a phwrpasol o egwyddorion dysgu ac addysgu, sydd yn debyg iawn i egwyddorion hanfodol cwricwlwm 2008, ac yn gydnaws ag egwyddorion cwricwla blaengar eraill ar draws y byd. Ond fe all fod yn sylfaen cwricwlwm i unrhyw un o’r gwledydd hynny: nid yw’n ceisio diffinio hyn sydd yn nodweddiadol am Gymru,  nac yn ymateb i’r gwerthfawrogiad o’r Cwricwlwm Cymreig a’r dimensiwn Cymreig a fynegwyd yn yr ymgynghoriad.

 

6.   Mae'r drafodaeth ar y dulliau o ddatblygu a manylu ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn argymell sefydlu 'timau datblygu canolog'  i lunio 'Datganiadau ar Ddeilliannau ar gyfer yr holl Gamau Cynnydd ym mhob un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad'  ac yn nodi mai un o'r elfennau y bydd disgwyl i'r timau hyn weithredu arnynt yw 'cyngor ynghylch cynnwys elfennau perthnasol o'r Cwricwlwm Cymreig o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad'. (t. 95). Mae 'r egwyddor yn iawn unwaith eto, ac yn debyg i'r hyn a wnaed wrth ddatblygu'r cwricwlwm o'r cychwyn, ond yn niffyg unrhyw ddiffiniad o'r dimensiwn Cymreig yn yr Adroddiad, neu unrhyw ymdriniaeth ohono, nag unrhyw ymdrech i'w enghreifftio, fe fydd y dasg hon yn un anodd iawn. Ydy'r cyfeiriad at y Cwricwlwm Cymreig yn awgrymu y dylid cymryd y Cwricwlwm Cymreig presennol  fel maen prawf? Neu a fyddai'r timau datblygu'n dilyn arweiniad Adroddiad sydd fel petai'n cymryd bod 'yr iaith a'r diwylliant' yn gyfystyr â dimensiwn Cymreig ?

 

7.   Cyfeirir at yr angen i ddatblygu capasiti athrawon (t.18; tt.96-8), ond  ni cheir enghreifftiau pendant o arfer da, nag unrhyw arweiniad clir ar y ffordd y dylid gwneud hynny er hybu dimensiwn Cymreig y dysgu a’r addysgu. Yn fwy na hynny, anwybydda'r Adroddiad gyfleoedd amlwg  i enghreifftio hynny. Nid yw’r enghreifftiau a gynigir yng nghorff yr Aroddiad yn adlewyrchu dimensiwn Cymreig :  gweler er enghraifft y drafodaeth ar y Celfyddydau Mynegiannol, tt. 43-4, lle does dim cyfeiriad o gwbl at ddiwylliant Cymru ei hun. Tipyn o  syndod yw gweld bod dim cyfeiriad hyd yn oed at yr traddodiad eisteddfodol yn y cyd-destun hwn, a hynny mewn dogfen sydd i osod  seiliau Cwricwlwm i Gymru.  Pan drown wedyn at yr enghraifft a gynigir o astudiaeth trawsgwricwlaidd, sef astudiaeth o afon leol (t.88), cawn gyfeiriad  cwbl briodol at Vitava gan Smetana, ond dim cyfeiriad o gwbl at unrhyw ddarn o gerddoriaeth Cymreig neu un o ganeuon Cymru ei hun. Mae’r perspectif rhyngwladol yn ddiogel yma, ond ble mae’r dimensiwn Cymreig?

 

8.  Pan ddisgrifir nodweddion ehangach y Meysydd Dysgu a Phrofiad (t.38) nodir yr angen am y dimensiwn Cymreig yn ogystal â phersbectif rhyngwladol, ond nid oes cyferiad at hynny yn Argymhelliad 4 sy’n dilyn. Pan ddifinir y Dyniaethau (tt.46-7), ceir cyfeiriadau cyffredinol iawn at ‘cyd-destunau deniadol’ , dysgu  am ‘bobl, lle, amser a chred’ a deall 'ffactorau hanesyddol, daearyddol, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol'   mewn cyd-destun 'eu hardal eu hun, Cymru a'r byd mewn gwahanol gyfnodau, lleoedd ac amgylchiadau'(t.46) . Dyna'r unig gyfeiriad at Gymru, a does dim ymgais o gwbl i drafod y dimensiwn Cymreig na’i enghreifftio. Ceir paragraff cyfan ar y dimensiwn lleol (t.46) ac un arall ar addysg grefyddol (tt.46-7). Does dim cyfeiriad at y dimensiwn Cymreig yn yr Argymhelliad sy’n dilyn (Argymhelliad 9). 

 

9.   Ceir trafodaeth ar le’r Gymraeg yn y cwricwlwm (tt.58 -60); pwysleisir rhan allweddol yr iaith yn y broses o ffurfio a chadw  ‘hunaniaeth ddiwylliannol’ (t.58), a dyfynnir Adroddiad yr Athro Sioned Davies wrth gyfeirio at y problemau a gyfyd wrth geisio cyflwyno’r iaith i bobl ifanc sydd ddim yn ‘gweld y pwnc yn berthnasol nac o unrhyw fudd iddynt’ (t.59). Fe fydd diffyg diffiniad clir o’r dimensiwn Cymreig yn addysg yng Nghymru, ac absenoldeb enghreifftiau o’i gyflwyno, yn debyg o’i wneud yn annos fyth i wneud y Gymraeg yn berthnasol i’r bobl ifanc hyn. Ar ben hynny, arswydaf wrth ddarllen Argymhelliad 24 (t.60) am yr iaith fel cyfrwng i feithrin ‘dealltwriaeth dda  o fywyd diwylliannol Cymru yn y gorffennol a’r presennol’. Mae’n ddigon anodd fel y mae i ddysgu Cymraeg mewn ysgolion Saesneg eu cyfrwng yng Nghymru, ac mae’r Athro Donaldson yn cyfeirio’n deg iawn at y pryderon sydd am safon y dysgu hwnnw (t.59). Awgryma argymhelliad  24, ynghyd â’r diffygion a nodir uchod yn y modd yr ymdrinir â’r dimensiwn Cymreig yn Adroddiad yr Athro Donaldson, y perygl y bydd disgwyl i athrawon y Gymraeg  yn unig ymgymryd â'r cyfrifoldeb am y dimensiwn Cymreig yn y cwricwlwm.

 

Crynodeb

 

Anodd teimlo'n hyderus y bydd dimensiwn Cymreig ystyrlon yn greiddiol i unrhyw Gwricwlwm i Gymru yn y dyfodol a seilir ar yr Adroddiad hwn, sydd heb

 

·         gynnig diffiniad ohono, ar wahan i 'iaith a diwylliant',

·         ei enghreifftio,

·         fanteisio ar gyfleoedd amlwg i gyfeirio ato.

 

Hanes 

10.        Un o’r newidiadau sylfaenol a argymhellir yw creu continwwm dysgu o 3-16 (Argymhellion 10-5, t.56, a thrafodaeth ar yr egwyddorion, tt. 52- 55).   Unwaith yn rhagor, mae Adroddiad yr Athro Donaldson yn cynnig datblygiad yn hytrach na newid sylfaenol. Bwriad y Cwricwlwm Cenedlaethol o’r cychwyn oedd sefydlu continwwm o’r math hwn o 5-14, a dyna’r rheswm pam mae Lefelau Cyrhaeddiad y Cwricwlwm presennol  i’w defnyddio gan y cynradd a’r uwchradd fel ei gilydd. Profodd yn anodd i bontio’r newid o un Cyfnod Allweddol i’r un nesaf, yn enwedig o Gyfnod Allweddol 2 i Gyfnod Allweddol 3.Mae’r gwahaniaeth rhwng y sgiliau hanes a ddiffinir yn y Lefelau Cyrhaeddiad ac amcanion asesu  TGAU hefyd wedi profi’n faen tramgwydd wrth geisio sicrhau parhad a dilyniant yn hanes rhwng Cyfnod 3 a Chyfnod 4 (gw. ACCH, Argymhelliad 2.5). Byddai sefydlu continwwm dysgu hanes o 3-16 yn ddatblygiad i’w croesawu, felly.

 

11.        Byddwn hefyd yn croesawu’r egwyddor o strwythuro cynnwys y cwricwlwm yn Feysydd Dysgu a Phrofiad yn hytrach na phynciau unigol (Argymhelliad 4, a thrafodaeth ar yr egwyddorion, tt. 33-38). Mae’r  egwyddor o gyfuno pynciau yr arferid eu hastudio ar wahan eisoes yn greiddiol i’r Cyfnod Sylfaen presennol a bu’n sail hefyd i waith cenedlaethau o athrawon cynradd. Rhydd gyfle i wneud dysgu trawsgwricwlaidd yn realti, a thrwy hynny hybu datblygu sgiliau’r dysgwyr, a’u gallu i gymhwyso eu dysgu i gyd-destunau newydd. Ond pryderaf am y modd yr ymdrinir â hanes.

 

12.        Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cyflwyno sgiliau hanes a daearyddiaeth gyda

gwyddoniaeth, fel  rhan o ‘Gwybodaeth  a Dealltwriaeth o’r Byd’. Dyma faes  

astudio sydd yn ymwneud â chanfod, cofnodi a gwerthuso tystiolaeth  a dod i

gasgliadau ar sail hynny. Gresynnaf nag yw Adroddiad yr Athro Donaldson yn

adeiladu ar hynny. Mae cyfuno daearyddiaeth, hanes ac astudiaethau crefyddol

yn boenus o debyg i’r hyn a wnaed mewn rhai o ysgolion Cymru ddeugain   mlyneddyn ôl. Nid yw’r disgrifiad a geir o nodweddion  y Dyniaethau (tt.46-7) yn rhoi sylw priodol i sgiliau penodol y pynciau unigol, yn enwedig, yn y cyswllt hwn, rhai  dadansoddiadol a gwerthusol hanes. Dysgu a deall yw hanfod y dyniaethau, yn ôl yr Adroddiad hwn, nid ymchwilio a gwerthuso tystiolaeth.

 

13.        Nodwyd yn ACCH fod diffyg tystiolaeth manwl am y modd y cyflwynir y Cwricwlwm Cymreig a hanes Cymru yn ein hysgolion [2] . Dyna’r sefyllfa o hyd. Ni welaf gyfeiriad yn Adroddiad yr Athro Donaldson at y diffyg hwn. Derbyniodd y tasglu nifer o ymatebion yn eu hyngynghoriad a feirniadodd ddiffyg hanes Cymru a hanes lleol yng nghynlluniau gwaith ysgolion. Yn y ddwy flynedd ers cyflwyno’r adroddiad, derbyniodd aelodau’r tasglu ragor o sylwadau gan unigolion sy’n pryderu am ansawdd  yr hanes a ddysgir, a hynny yn rhannol oherwydd yr oedi  ac ansicrwydd a fu  o ganlyniad i’r penderfyniad i gynnal arolwg llawn o‘r cwricwlwm. Ymddengys bellach fod nifer o ysgolion wedi achub y blaen ar yr adolygiad, trwy fynd at i ailwampio’u cynlluniau dysgu a chyfuno hanes, daearyddiaeth ac Addysg Grefyddol  o dan ymbarel y Dyniaethau. Mae rhai hefyd wedi penderfynu yn niffyg arweiniad pendant  i fuddsoddi mewn cynlluniau meges ‘Conglfeini’, sy’n darparu canllawiau clir a phendant – ond o berspectif Seisnig .

 

Elin Jones



[1]     Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru, Llywodraeth Cymru, 2013.ISBN 978 1 4734 0288 1

[2]     Gw. ACCH, Adran 1,  t. 6 ac Argymhelliad 1.4, a c Adran 2, tt. 12- 19, ac Argymhellion 2.3, 4.